Croeso i wefan Celticos
Hoffech chi ddod draw i ogledd Cymru a threulio ychydig o amser ym mroydd hardd Eryri? Fe allwn ni wneud eich ymweliad yn fythgofiadwy drwy gynnig profiadau cyffrous y byddwch yn eu trysori am byth.
Mae Celticos yn cydweithio â nifer o sefydliadau lleol i gynnal gweithgareddau unigryw, cofiadwy sy’n siŵr o’ch diddori. Bydd y gweithgareddau hyn yn fodd i chi fwynhau’r gornel hon o Gymru yn ei holl gyfoeth diwylliannol, ieithyddol ac amgylcheddol.
Mae Eryri yn enwog am ei golygfeydd godidog sy’n newid o ardal i ardal ac o dymor i dymor. Ond mae Eryri yn fwy na llun cerdyn post – mae hi’n gyforiog o lefydd a nodweddion hynod sy’n hawlio lle pwysig yn hanes ein cenedl. Dyma fro’r chwedlau, bro’r beirdd, bro’r tywysogion, bro’r hen draddodiadau. Bydd y rhain oll yn gwneud eich amser yma yn fwy pleserus. Atgofion melys sy’n gwneud gwyliau da ac rydym ni’n gobeithio’n fawr y byddwch yn ffarwelio â ni gyda hiraeth mawr am eich amser yma.









