Twristiaeth Gyfrifol
CYFLWYNIAD
Mae Celticos yn gwmni modern sy’n credu’n gryf mewn edrych ar ein heffaith ar y byd, boed yn effaith Amgylcheddol, Economaidd neu Gymdeithasol. Mae Twristiaeth Gyfrifol yn bwysig iawn i’n cwsmeriaid ond, wedi dweud hynny, rydym ni hefyd yn ymwybodol fod Twristiaeth Gyfrifol yn gysyniad newydd a fydd yn cymryd peth amser i’w ddatblygu’n llwyr. Ar hyn o bryd, dydi’r holl weithgareddau rydym ni’n eu cynnig ddim yn cynnwys polisïau Twristiaeth Gyfrifol pendant, ond rydym ni’n mawr obeithio y bydd ein partneriaid a’n cyflenwyr yn gweld pwysigrwydd yr elfen yma o dwristiaeth ac yn ei gynnwys yn eu polisïau yn y dyfodol.
Mae twristiaeth yn un o ddiwydiannau mwyaf y byd, gan ddenu miloedd ar filoedd o bobl i ymweld ag ardal neu wlad arbennig a dysgu am gymuned, diwylliant ac amgylchedd yr ardal neu’r wlad honno. Mae natur twristiaeth yn amrywio o le i le, o dwristiaeth dorfol a llefydd gwyliau poblogaidd fel Disneyland i dwristiaeth sy’n dibynnu ar nodweddion naturiol neu ddiwylliannol.
Er bod canllawiau ac egwyddorion Twristiaeth Gyfrifol yn cael eu defnyddio ar draws y byd, fe ddylai bod pob gwlad ac ardal benodol â pholisi ei hun.
Os hoffech chi weld enghraifft o’n polisïau Twristiaeth Gyfrifol ar gyfer y gweithgareddau sydd gennym ni yng ngogledd Cymru, defnyddiwch y ddolen isod:
I wybod mwy am Dwristiaeth Gyfrifol ewch i wefan yr ICRT.
![]() |
Mae'r Ganolfan Dwristiaeth Gyfrifol Ryngwladol ym Mhrifysgol Metropolitan Leeds. Mwy o wybodaeth |
![]() |
Mae Celticos yn gweithio'n agos gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac yn paratoi mentrau ar y cyd. Mwy o wybodaeth. |
![]() |
Mae Celticos wedi meithrin perthynas â Phrifysgol Bangor i ennill a datblygu profiad a chydweithio ar brosiectau. Mwy o wybodaeth. |
![]() |
Eleni mae Celticos wedi cyflogi pobl drwy gynllun GoWales. Mae'r cynllun yma yn cefnogi busnesau, myfyrwyr a graddedigion Cymru. Mwy o wybodaeth. |













