Polisi Twristiaeth Gyfrifol, Cymru
Polisi Twristiaeth Gyfrifol, Cymru
Mae Twristiaeth Gyfrifol yn mynd i’r afael â’r canlynol:
- Y gymdeithas a’i diwylliant
- Yr economi
- Yr amgylchedd.
Mae pob un o’r tair elfen yr un mor bwysig â’i gilydd. Nid twristiaeth “werdd” yn unig mo Twristiaeth Gyfrifol. Mae hi’n ystyried anghenion ac ansawdd bywyd cymunedau, yn parchu ac yn atgyfnerthu eu traddodiadau a’u diwylliant lleol, yn cyfrannu at eu ffyniant ac yn lleihau’r difrod i’r amgylchedd. Mae cydweithio â busnesau lleol, sefydliadau llywodraethu a chymunedau yn hanfodol ar gyfer llwyddiant Twristiaeth Gyfrifol.
Yn anffodus, mae pobl yn dueddol o anghofio am y Cwsmeriaid neu’r Twristiaid wrth ysgrifennu eu polisïau.
Fe ddylai “nod” pob polisi sicrhau fod y cwsmer yn mwynhau ac yn cael budd o’u profiadau. Mae’r galw am dwristiaeth amgen wedi cynyddu’n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’n rhaid i sefydliadau ymateb i’r galw hwnnw.
Mae Twristiaeth Gyfrifol yn bwysig iawn i Celticos. Ar y cyfan dydi’r gweithgareddau cerdded yn amharu dim ar yr amgylchedd. Mae ein dogfen polisi yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol ac rydym o hyd yn ceisio ei haddasu a’i gwella. Fe all pawb weld y ddogfen hon ac fe’i lluniwyd hi er lles Gogledd Cymru. Rydym ni’n awyddus iawn i osod safonau uchel a phennu nodau cyraeddadwy yn ein polisi Twristiaeth Gyfrifol. Wedi dweud hynny, un peth ydi ysgrifennu polisïau, peth arall ydi eu gweithredu. Gwelwch greenwashing.net
Gogledd Cymru
“Rydym ni, yn adrannau marchnata a gofal cwsmeriaid cynghorau Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn, yn cefnogi’r egwyddor o Dwristiaeth Cyfrifol ac yn mawr obeithio y gall Celticos ddod â manteision economaidd i Gonwy, Gwynedd a Môn.”
Dros y blynyddoedd mae ymwelwyr wedi heidio i Ogledd Cymru ac mae hynny wedi gadael ei farc, yn arbennig ar hyd arfordir y gogledd ddwyrain. Mae sefydliadau’r llywodraeth ganol a lleol yn edrych ar dwristiaeth dorfol gan geisio lleihau ei heffeithiau.
Ni ddylai sefydliadau sy’n ymwneud â Thwristiaeth Gyfrifol feithrin agwedd “ffroenuchel” tuag at dwristiaeth dorfol ond, yn hytrach, ganolbwyntio ar ddarparu twristiaeth amgen i’r rheiny â diddordeb.
Os ewch chi ar hyd arfordir y gogledd tua’r gorllewin a theithio i berfedd y wlad fe welwch chi nad ydi effeithiau twristiaeth dorfol mor amlwg yno. Bu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod yr amgylchedd a’r cymunedau ers blynyddoedd lawer. Mae’n ardal hon yn ardal ddelfrydol i ddatblygu Twristiaeth Gyfrifol.
Datganiad o Fwriad
Mae Twristiaeth Gyfrifol yn bwysig iawn i Celticos ac rydym ni’n:
- Rhoi gwybod i’n gweithwyr a’n cleientiaid o’n safonau a’n canllawiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sydd yn ein polisi Twristiaeth Gyfrifol;
- datblygu perthynas tymor hir gyda chyflenwyr lleol a chynorthwyo busnesau newydd;
- edrych ar ein llwybrau cerdded gan osgoi cerdded ar rai adrannau ar rai adegau o’r flwyddyn er mwyn eu gwarchod;
- cyflwyno ein cwsmeriaid i’r gymuned Gymreig, trwy weithgareddau, ymweld â llefydd a threfnu sgyrsiau diwylliannol;
- annog ein cwsmeriaid i siarad Cymraeg; petai ond ychydig frawddegau;
- hyrwyddo gwyliau yn y gaeaf i ymestyn y tymor gwyliau;
- sicrhau nad oes sbwriel na difrod ar y llwybrau cerdded;
- Cefnogi prosiectau amgylcheddol sy’n mynd i’r afael â Thwristiaeth Gyfrifol fel bod modd i genedlaethau’r dyfodol fwynhau’r profiadau.
Rydym ni’n arolygu ein Polisi Twristiaeth Gyfrifol bob blwyddyn.
|
Beth am weithio hefo’n gilydd yng Ngogledd Cymru i greu lle gwell i fyw ac i ymweld â hi? Os ydych chi neu’ch busnes yn awyddus i wneud hyn dilynwch y dolenni i weld sut y medrwch chi elwa. |
![]() |
I wybod mwy am Dwristiaeth Gyfrifol ewch i wefan yr ICRT.
![]() |
Mae'r Ganolfan Dwristiaeth Gyfrifol Ryngwladol ym Mhrifysgol Metropolitan Ledds. Mwy o wybodaeth. |
![]() |
Mae Celticos yn gweithio'n agos gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac yn paratoi mentrau ar y cyd. Mwy o wybodaeth. Rydym ni hefyd yn gweithio gydag Eryri Werdd |
![]() |
Mae Celticos yn cydweithio â Nature's Work |
![]() |
Mae Celticos wedi meithrin perthynas â Phrifysgol Bangor i ennill a datblygu profiad a chydweithio ar brosiectau. Mwy o wybodaeth |
![]() |
Eleni mae Celticos wedi cyflogi pobl drwy gynllun GoWales. Mae'r cynllun yma yn cefnogi busnesau, myfyrwyr a graddedigion Cymru. Mwy o wybodaeth. |














